data/cymrufyw/cpsAssets/53403042.json
{
"metadata": {
"id": "urn:bbc:ares::asset:newyddion/53403042",
"locators": {
"assetUri": "/newyddion/53403042",
"cpsUrn": "urn:bbc:content:assetUri:newyddion/53403042",
"curie": "http://www.bbc.co.uk/asset/2dd1cf1a-91f8-4aa5-b84f-a7567f762494",
"assetId": "53403042"
},
"type": "CSP",
"createdBy": "newyddion-v6",
"language": "cy",
"lastUpdated": 1606843841021,
"firstPublished": 1594723545000,
"lastPublished": 1594723545000,
"timestamp": 1594723545000,
"options": {
"isIgorSeoTagsEnabled": false,
"includeComments": false,
"allowRightHandSide": true,
"isFactCheck": false,
"allowDateStamp": true,
"suitableForSyndication": true,
"hasNewsTracker": false,
"allowRelatedStoriesBox": true,
"isKeyContent": false,
"allowHeadline": true,
"allowAdvertising": true,
"hasContentWarning": false,
"isBreakingNews": false,
"allowPrintingSharingLinks": false
},
"analyticsLabels": {
"cps_asset_type": "csp",
"counterName": "newyddion.gwleidyddiaeth.correspondent_story.53403042.page",
"cps_asset_id": "53403042"
},
"passport": {
"category": {
"categoryId": "http://www.bbc.co.uk/ontologies/applicationlogic-news/News",
"categoryName": "News"
},
"taggings": []
},
"tags": {
"about": [
{
"thingLabel": "Gwleidyddiaeth",
"thingUri": "http://www.bbc.co.uk/things/75612fa6-147c-4a43-97fa-fcf70d9cced3#id",
"thingId": "75612fa6-147c-4a43-97fa-fcf70d9cced3",
"thingType": [
"tagging:TagConcept",
"core:Theme",
"core:Thing"
],
"thingSameAs": [
"http://dbpedia.org/resource/Politics"
],
"topicName": "Gwleidyddiaeth",
"topicId": "cjyqgz5kvryt",
"curationList": [
{
"curationId": "4f5e0352-b5fa-40a6-8f0c-b3c2260157ce",
"curationType": "vivo-stream"
}
],
"thingEnglishLabel": "Politics"
},
{
"thingLabel": "Datganoli",
"thingUri": "http://www.bbc.co.uk/things/dc9b2f0c-3528-4c7e-b078-4d3074f99a60#id",
"thingId": "dc9b2f0c-3528-4c7e-b078-4d3074f99a60",
"thingType": [
"core:Theme",
"tagging:TagConcept",
"core:Thing"
],
"thingSameAs": [
"http://www.wikidata.org/entity/Q744894",
"http://dbpedia.org/resource/Devolution_in_the_United_Kingdom"
],
"topicName": "Datganoli",
"topicId": "c8xqxvg8ly4t",
"curationList": [
{
"curationId": "10e6982b-d217-4e3a-8590-d876338f88b8",
"curationType": "vivo-stream"
}
],
"thingEnglishLabel": "UK devolution"
}
]
},
"version": "v1.3.11",
"blockTypes": [
"paragraph"
],
"includeComments": false,
"atiAnalytics": {
"producerName": "WALES",
"producerId": "100"
},
"readTime": 2,
"siteUri": "/newyddion",
"topics": [
{
"topicName": "Datganoli",
"topicId": "c8xqxvg8ly4t",
"subjectList": [
{
"subjectId": "http://www.bbc.co.uk/things/dc9b2f0c-3528-4c7e-b078-4d3074f99a60#id",
"subjectType": "tag"
}
],
"curationList": [
{
"curationId": "10e6982b-d217-4e3a-8590-d876338f88b8",
"curationType": "vivo-stream",
"visualProminence": "NORMAL"
}
],
"types": [
"core:Theme",
"tagging:TagConcept",
"core:Thing"
]
},
{
"topicName": "Gwleidyddiaeth",
"topicId": "cjyqgz5kvryt",
"subjectList": [
{
"subjectId": "http://www.bbc.co.uk/things/75612fa6-147c-4a43-97fa-fcf70d9cced3#id",
"subjectType": "tag"
}
],
"curationList": [
{
"curationId": "4f5e0352-b5fa-40a6-8f0c-b3c2260157ce",
"curationType": "vivo-stream",
"visualProminence": "NORMAL"
}
],
"types": [
"tagging:TagConcept",
"core:Theme",
"core:Thing"
]
}
]
},
"content": {
"blocks": [
{
"text": "I'r rheiny sydd, fel fi, yn ymddiddori yng ngwleidyddiaeth a hanes Awstralia mae heddiw yn ddiwrnod mawr a dweud y lleiaf.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Ar ôl blynyddoedd o frwydro yn y llysoedd gorfodwyd i'r archif genedlaethol gyhoeddi'r ohebiaeth rhwng Palas Buckingham a'r Llywodraethwr Cyffredinol adeg diswyddo'r Prif Weinidog Llafur Gough Whitlam yn 1975.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Roedd yr archif wedi dadlau mai gohebiaeth breifat oedd y 211 o lythyrau a gyhoeddwyd heddiw. Doedd dim modd eu rhyddhau felly heb gytundeb y Frenhines a doedd hithau neu ei swyddogion ddim yn fodlon rhoi'r caniatâd hwnnw.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "I haneswyr roedd y syniad y gallai dogfennau sydd yn greiddiol i hanes gwleidyddol Awstralia gael eu cadw'n ddirgel ar fympwy menyw ym mhendraw'r byd yn sarhaus. Am unwaith, yr haneswyr wnaeth ennill y ddadl. ",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Nawr, mae'r llythyrau'n ddiddorol ynddyn nhw eu hun ond maen nhw hefyd yn rhybudd pwysig ynghylch y peryglon o gredu'n ormodol ar rym confensiynau mewn gwledydd sydd a'u cyfansoddiadau'n seiliedig ar gyfundrefn Westminster.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Cymerwch enghraifft. Does neb yn gwadu am eiliad bod gan y Goron, y Frenhines hynny yw, hawl didramgwydd i benodi a diswyddo Prif Weinidogion ond mae'r syniad y byddai Elisabeth II yn diswyddo Prif Weinidog oedd â chefnogaeth mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin y tu hwnt o bob dychymyg.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Ond dyna oedd yr union bŵer a ddefnyddiwyd gan Syr John Kerr i ddiswyddo Whitlam, ac mae'n brawf o ba mor beryglus yw credu na fydd pwerau sy'n bodoli ar bapur byth yn cael eu defnyddio.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Mae hynny'n bwysig wrth i ni ystyried y tensiynau cynyddol rhwng llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y naill law a llywodraethau Cymru a'r Alban ar y llall.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Priodolir y geiriau "power devolved is power retained" i Enoch Powell gan amlaf ond mae'r pwynt yn un digon amlwg. Mae San Steffan yn gallu cymryd yn ogystal â rhoi.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Os ydy Boris Johnson o ddifri wrth ddweud y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn adeiladu traffordd newydd i liniaru'r M4 yng Nghasnewydd mae modd iddi wneud hynny.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Gallaf ddychmygu'n hawdd y dadleuon a fyddai'n cael eu defnyddio i gyfiawnhau cyflwyno deddfwriaeth yn San Steffan i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cael cyflawni prosiectau o 'bwys strategol i'r deyrnas gyfan'.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Yn yr un modd os ydy Llywodraeth y DU yn penderfynu mae hi, a hi'n unig, fydd yn llunio amodau a rheolau'r farchnad sengl newydd rhwng Cymru, yr Alban a Lloegr fydd angen ei chreu yn sgil Bregsit does 'na fawr ddim y gall Bae Caerdydd a Holyrood wneud ynghylch y peth.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Byddai, fe fyddai 'na lawer o weiddi a sgrechian ac argyfwng cyfansoddiadol go ddifrifol ond, fel y canfu Whitlam, diwedd y gân yw'r goron.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
}
]
},
"promo": {
"headlines": {
"shortHeadline": "Diwedd y gân yw'r goron",
"headline": "Diwedd y gân yw'r goron"
},
"locators": {
"assetUri": "/newyddion/53403042",
"cpsUrn": "urn:bbc:content:assetUri:newyddion/53403042",
"curie": "http://www.bbc.co.uk/asset/2dd1cf1a-91f8-4aa5-b84f-a7567f762494",
"assetId": "53403042"
},
"summary": "I'r rheiny sydd, fel fi, yn ymddiddori yng ngwleidyddiaeth a hanes Awstralia mae heddiw yn ddiwrnod mawr a dweud y lleiaf.",
"timestamp": 1594723545000,
"language": "cy",
"byline": {
"name": "By Vaughan Roderick",
"title": "Golygydd Materion Cymreig y BBC",
"persons": [
{
"name": "Vaughan Roderick",
"function": "Golygydd Materion Cymreig y BBC",
"url": "/newyddion/correspondents/vaughanroderick",
"correspondentId": "vaughanroderick",
"thumbnail": "http://news.bbcimg.co.uk/media/images/66800000/jpg/_66800378_roderick144x104-gray.jpg"
}
]
},
"passport": {
"category": {
"categoryId": "http://www.bbc.co.uk/ontologies/applicationlogic-news/News",
"categoryName": "News"
},
"taggings": []
},
"indexImage": {
"id": "111079399",
"subType": "index",
"href": "http://c.files.bbci.co.uk/18445/production/_111079399_vaughanroderickmawr.jpg",
"path": "/cpsprodpb/18445/production/_111079399_vaughanroderickmawr.jpg",
"height": 675,
"width": 1200,
"altText": "vaughan",
"copyrightHolder": "BBC",
"type": "image"
},
"id": "urn:bbc:ares::asset:newyddion/53403042",
"type": "cps"
},
"relatedContent": {
"section": {
"subType": "index",
"name": "Gwleidyddiaeth",
"uri": "/newyddion/gwleidyddiaeth",
"type": "simple"
},
"site": {
"subType": "site",
"name": "Newyddion",
"uri": "/newyddion",
"type": "simple"
},
"groups": []
}
}