data/cymrufyw/cpsAssets/etholiad-2017-39407507.json
{
"metadata": {
"id": "urn:bbc:ares::asset:newyddion/etholiad-2017-39407507",
"locators": {
"assetUri": "/newyddion/etholiad-2017-39407507",
"cpsUrn": "urn:bbc:content:assetUri:newyddion/etholiad-2017-39407507",
"curie": "http://www.bbc.co.uk/asset/86d24cff-f55f-0b41-8318-afc98f4e42d0",
"assetId": "39407507"
},
"type": "STY",
"createdBy": "newyddion-v6",
"language": "cy",
"lastUpdated": 1606747255602,
"firstPublished": 1493388731000,
"lastPublished": 1493388731000,
"timestamp": 1493388731000,
"options": {
"isIgorSeoTagsEnabled": false,
"includeComments": false,
"allowRightHandSide": true,
"isFactCheck": false,
"allowDateStamp": true,
"suitableForSyndication": true,
"hasNewsTracker": false,
"allowRelatedStoriesBox": true,
"isKeyContent": false,
"allowHeadline": true,
"allowAdvertising": true,
"hasContentWarning": false,
"isBreakingNews": false,
"allowPrintingSharingLinks": false
},
"analyticsLabels": {
"cps_asset_type": "sty",
"counterName": "newyddion.etholiad.2017.story.39407507.page",
"cps_asset_id": "39407507"
},
"tags": {},
"version": "v1.3.11",
"blockTypes": [
"heading",
"paragraph",
"subheading"
],
"includeComments": false,
"atiAnalytics": {
"producerName": "WALES",
"producerId": "100"
},
"readTime": 3,
"siteUri": "/newyddion"
},
"content": {
"blocks": [
{
"text": "Pa etholiadau fydd yn cael eu cynnal ym mis Mai 2017?",
"markupType": "plain_text",
"type": "heading"
},
{
"text": "Bydd etholiadau'n cael eu cynnal mewn 34 o gynghorau yn Lloegr, pob un o 32 o gynghorau Yr Alban a phob un o 22 o gynghorau Cymru ar 4 Mai 2017.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Yn ogystal, bydd chwe ardal yn Lloegr yn pleidleisio am rôl newydd y "meiri awdurdod lleol cyfunol".",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Bydd y meiri yma'n gyfrifol am ddatblygiad economaidd yn eu hardaloedd, ond fe fydd gan rai bwerau dros drafnidiaeth a thai.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Mae Doncaster a Gogledd Tyneside hefyd yn ethol meiri awdurdod lleol, fydd yn arweinwyr eu cynghorau.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Dros bwy ydw i'n pleidleisio a beth maen nhw'n ei wneud?",
"markupType": "plain_text",
"type": "subheading"
},
{
"text": "Mewn etholiadau lleol, mae cynghorwyr yn cael eu hethol i redeg awdurdodau lleol.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Mae cyngor sir yn gyfrifol am reoli sir, fel Sir Ddinbych neu Sir Gaerfyrddin er enghraifft.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Maen nhw'n gyfrifol am ofalu am y gwasanaethau cyngor mwyaf drud gan gynnwys ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, llyfrgelloedd, priffyrdd, trafnidiaeth gyhoeddus, heddluoedd a gwasanaethau tân, gwastraff a chynllunio strategol.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Caiff rhai siroedd eu rhannu'n gynghorau ardal, sy'n gyfrifol am faterion lleol a gwasanaethau fel cynllunio, tai cyngor, ffyrdd llai, iechyd yr amgylchedd, marchnadoedd, casglu gwastraff ac ailgylchu, parciau a thwristiaeth.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Mewn rhai llefydd, mae'r ddau fath o gyngor yn cael eu cyfuno i greu awdurdod unedol sy'n gyfrifol am yr holl wasanaethau.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Yn 2017, mae bron pob etholiad yn Lloegr ar gyfer cyngor sir, tra bod pob cyngor yng Nghymru a'r Alban yn awdurdodau unedol.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Beth am ethol meiri?",
"markupType": "plain_text",
"type": "subheading"
},
{
"text": "Bydd chwe maer newydd yn cael eu hethol i gynrychioli nifer o ardaloedd yn Lloegr.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Mae'r swyddi yma'n cael eu creu fel rhan o gynllun y llywodraeth i gynyddu pwerau lleol a datganoli mwy o bwerau i ardaloedd yn Lloegr.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Bydd y meiri yn cynrychioli nifer o awdurdodau lleol ym mhob ardal.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Mae'r union bwerau yn amrywio yn ôl y gwahanol gytundebau rhwng awdurdodau a'r llywodraeth, ond yn gyffredinol yn ymwneud a strategaeth economaidd, trafnidiaeth a chynllunio.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Pam nad yw pob cyngor yn Lloegr yn cynnal etholiad?",
"markupType": "plain_text",
"type": "subheading"
},
{
"text": "Mae gwahanol fathau o gyngor ar draws y DU ac maen nhw'n cynnal etholiadau ar adegau gwahanol.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Nid yw pob cyngor yn cynnal etholiad bob blwyddyn.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Pryd mae disgwyl y canlyniadau?",
"markupType": "plain_text",
"type": "subheading"
},
{
"text": "Bydd rhai cynghorau yng Nghymru a Lloegr yn dechrau cyfri' pleidleisiau yn syth ar ôl i'r blychau gan am 22:00 ar 4 Mai.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Bydd eraill yn dechrau cyfri' fore Gwener gyda'r canlyniadau'n cael eu cadarnhau yn ystod y dydd.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Mae cynghorau yn Yr Alban yn dechrau cyfri' fore Gwener, ac mae disgwyl y canlyniadau cyntaf tua 12:00.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Bydd canlyniadau etholiadau meiri yn cael eu cyhoeddi ddydd Gwener.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Sut mae cyfrifo rheolaeth cyngor?",
"markupType": "plain_text",
"type": "subheading"
},
{
"text": "Os oes gan blaid fwyafrif ar unrhyw gyngor, mae'n cael ei ystyried mewn rheolaeth o'r cyngor yna.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Os nad oes gan unrhyw blaid fwyafrif yna caiff ei ddisgrifio fel "Dim Rheolaeth Lawn".",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Mae'r BBC, Press Association ac eraill yn diffinio rheolaeth cyngor cyn etholiad fel y blaid, os oes un o gwbl, sydd â mwyafrif ar y noson cyn y bleidlais.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Pe bai'r Ceidwadwyr wedi ennill cyngor yn 2012, ond yna drwy aelodau'n gadael y blaid a seddi wedi eu colli mewn isetholiadau mae'r cyngor yn troi'n un Dim Rheolaeth Lawn, yn 2017, pe bai'r Ceidwadwyr yn cael mwyafrif byddai'n cael ei ddisgrifio fel y Ceidwadwyr yn cipio'r cyngor.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Sut mae cyfrifo newid mewn seddi?",
"markupType": "plain_text",
"type": "subheading"
},
{
"text": "Mae newid mewn seddi yn ddibynnol ar faint o seddi wnaeth bob plaid eu hennill yn yr etholiad tebyg diwethaf.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Yn Lloegr, roedd yr etholiad diwethaf i bron bob un o'r seddi yn 2013* a bron pobman yng Nghymru yn 2012**.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Roedd etholiadau lleol diwethaf Yr Alban yn 2012.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Mewn rhai cynghorau, mae newidiadau i ffiniau wrth ad-drefnu cynghorau ac mae'r nifer o seddi ar y cyngor yn newid.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Mewn achosion o'r fath, mae'r BBC yn defnyddio "canlyniadau damcaniaethol" i amcangyfrif beth fyddai'r canlyniad wedi bod petai'r ffiniau wedi newid yn yr etholiad diwethaf.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Bydd cyfanswm y seddi i bob plaid ychydig yn wahanol i'r seddi wrth ddiddymu a'r rhai gafodd eu hennill yn 2012 a 2013.",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "<italic>* Roedd etholiad diwethaf tebyg Doncaster yn 2015</italic>",
"markupType": "candy_xml",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "<italic>** Cafodd etholiad Ynys Môn ei ohirio am flwyddyn tan 2013.</italic>",
"markupType": "candy_xml",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Beth mae DRL a thalfyriadau eraill yn eu golygu?",
"markupType": "plain_text",
"type": "subheading"
},
{
"text": "ANI - Annibynnol",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "CEID - Ceidwadwyr",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "DRL - Dim Rheolaeth Lawn",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "DRh - Democratiaid Rhyddfrydol",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "GRDD - Plaid Werdd",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "LLAF - Llafur",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "LLG - Llais Gwynedd",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "PC - Plaid Cymru",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "UKIP - Plaid Annibyniaeth y DU",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Pa gynghorau sy'n cynnal etholiad eleni?",
"markupType": "plain_text",
"type": "subheading"
},
{
"text": "<link><caption>Cliciwch yma am fanylion yr holl ymgeiswyr ar gyfer yr etholiadau lleol</caption><url href=\"http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/etholiad-2017-39513723\" platform=\"highweb\"/></link>.",
"markupType": "candy_xml",
"aresUrl": "https://ares-api.api.bbci.co.uk/api/asset/newyddion/etholiad-2017-39513723",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Abertawe",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Blaenau Gwent",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Bro Morgannwg",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Caerdydd",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Caerffili",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Casnewydd",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Castell-nedd Port Talbot",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Ceredigion",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Conwy",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Gwynedd",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Merthyr Tudful",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Pen-y-bont ar Ogwr",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Powys",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Rhondda Cynon Taf",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Sir Penfro",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Sir Ddinbych",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Sir Fynwy",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Sir Gaerfyrddin",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Sir y Fflint",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Torfaen",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Wrecsam",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
},
{
"text": "Ynys Môn",
"markupType": "plain_text",
"type": "paragraph"
}
]
},
"promo": {
"headlines": {
"shortHeadline": "Sut fydd y BBC yn adrodd canlyniadau etholiadau lleol 2017?",
"headline": "Sut fydd y BBC yn adrodd canlyniadau etholiadau lleol 2017?"
},
"locators": {
"assetUri": "/newyddion/etholiad-2017-39407507",
"cpsUrn": "urn:bbc:content:assetUri:newyddion/etholiad-2017-39407507",
"curie": "http://www.bbc.co.uk/asset/86d24cff-f55f-0b41-8318-afc98f4e42d0",
"assetId": "39407507"
},
"summary": "Sut fydd y BBC yn adrodd canlyniadau etholiadau lleol 2017?",
"timestamp": 1493388731000,
"language": "cy",
"indexImage": {
"id": "95830301",
"subType": "index",
"href": "http://c.files.bbci.co.uk/283F/production/_95830301_mediaitem95830300.jpg",
"path": "/cpsprodpb/283F/production/_95830301_mediaitem95830300.jpg",
"height": 351,
"width": 624,
"altText": "etholiad",
"copyrightHolder": "BBC",
"type": "image"
},
"id": "urn:bbc:ares::asset:newyddion/etholiad-2017-39407507",
"type": "cps"
},
"relatedContent": {
"section": {
"subType": "index",
"name": "Etholiad 2017",
"uri": "/newyddion/etholiad/2017",
"type": "simple"
},
"site": {
"subType": "site",
"name": "Newyddion",
"uri": "/newyddion",
"type": "simple"
},
"groups": []
}
}